Cartref.
Y SME .
Rheolaeth  .
Gwybodaeth.
Dolennau.
Cysylltiadau.

Safle Morol Ewropeaidd Bae ac Aberoedd Caerfyrddin

 

 

Diweddarwyd ddiwethaf:

10 Mai 2008

Rheolaeth

Fel y mae eu henw yn awgrymu, dynodiadau Ewropeaidd yw'r Safleoedd Morol Ewropeaidd, ar gyfer y mannau morol pwysicaf sydd arnynt angen eu gwarchod a'u hamddiffyn, ac y maent yn rhan o gyfraniad yr Undeb Ewropeaidd i'r ymgyrch i gynnal bioamrywiaeth. Nid gwarchodfeydd natur mohonynt fel y cyfryw, ond yn hytrach yn ardaloedd aml-ddefnydd lle y bydd llawer o wahanol weithgareddau yn parhau, ond y rhoddir blaenoriaeth i amddiffyn y bywyd gwyllt morol a'i gynefinoedd.

Er mwyn sicrhau bod bywyd gwyllt a phobl yn byw mewn cytgord, rhaid cael rheolaeth ofalus a phriodol ar weithgareddau dynol sy'n bygwth neu'n achosi difrod arfordirol ac arforol.  Mae Cyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE yn ogystal â Rheoliadau Cynefinoedd y DU yn argymell mai’r ffordd orau o sicrhau'r rheolaeth angenrheidiol yw trwy ddatblygu a gweithredu cynlluniau rheoli cydweithredol, safle -benodol, integredig.

Yn y Rheoliadau Cynefinoedd rhoddir y cyfrifoldeb am y rheoli i'r awdurdodau perthnasol ar gyfer y safle.  Mae awdurdodau perthnasol Bae ac Aberoedd Caerfyrddin yn cydweithio o fewn Grŵp Awdurdodau Perthnasol y safle i baratoi cynllun rheoli a fydd yn gosod y fframwaith y rheolir y gweithgareddau yn SME Bae ac Aberoedd Caerfyrddin oddi mewn iddo, gan yr awdurdodau perthnasol a chymwys, yn unigol ac ar y cyd, mewn ffyrdd a fydd yn gydnaws a diogelu'r buddiannau cadwraeth natur.

Yr amcanion  cadwraeth

Mae rheoliad 33 yn y Rheoliadau Cynefinoedd yn mynnu bod Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) yn cynghori'r awdurdodau perthnasol ar gyfer  y Safleoedd Morol Ewropeaidd ynglŷn â'r "amcanion cadwraeth ar gyfer y safle dan sylw" ac "unrhyw weithrediadau a allai achosi dirywiad mewn cynefinoedd naturiol neu gynefinoedd y rhywogaethau neu ymyrraeth â'r rhywogaethau, y dynodwyd y safle ar eu cyfer."

Rhoddir manylion pellach yn nogfen cyngor Rheoliad 33  CCGC “Carmarthen Bay & Estuaries European Marine Site: Advice provided by the Countryside Council for Wales in fulfilment of Regulation 33 of the Conservation (Natural Habitats, &c.) Regulations 1994.” sydd ar gael yma (1.2Mb pdf).

Paratoir y cynllun rheoli i gyflawni pwrpas, gweledigaeth ac amcanion strategol a gytunir ymlaen llaw a chan ddilyn egwyddorion rheoli a ddatgenir yn eglur.

Y bwriad yw sefydlu rhaglen dreigl hirdymor gydag amserlen a gyflawnir dros gyfnod o 30 mlynedd.  O fewn y cyfnod hwnnw, cynhelid adolygiadau sylweddol o'r cynllun bob chwe blynedd (i gyd-ddigwydd a chylchred adrodd yr UE) gan ddiwygio'r cynllun a'i roi ar waith fesul cam yn unol â hynny.

 

 

Pwrpas a gweledigaeth .

Awdurdodau Perthnasol .

Yr egwyddorion rheoli .

Cynllun Rheoli .

Cynlluniau a phrosiectau .

Cysylltu .

Y buddion a ddaw o'r SME .

©  Blaise Bullimore BullimoreCCW